Yn ara’ deg mae dal iâr…

Yn ystod fy nghyfnod ym myd addysg, rydw i wedi ymddiddori mewn bwrlwm a phrysurdeb drama, cerddoriaeth a llenyddiaeth Gymraeg. Roeddwn i wrth fy modd yn treiddio i grombil llyfr neu sgript dda a dysgu am gymeriadau a sefyllfaoedd.

Wrth gwblhau fy ngradd mewn Seicoleg, roedd pobl yn ganolog i’m astudiaethau, yn edrych ar effaith digwyddiadau ar deimladau ac emosiynau pobl, a chyn i mi dderbyn y rôl yma, fy swydd flaenorol oedd athrawes ysgol gynradd, yn dysgu plant ym mlwyddyn 5 a 6. Mewn diwrnod roeddwn i’n gallu bod yn nifer o gymeriadau, yn awdurdodol, yn sensitif, yn hwyliog, yn frwdfrydig ac yn siomedig, ond wastad yn rheoli o du blaen y dosbarth.

Rydw i wastad wedi mwynhau edrych ar effaith sefyllfa ar bobl, ond erioed wedi bod yn gyfrifol am greu effaith fwriadol ar sefyllfa o’r blaen. Yn fy rôl fel hyfforddai rheoli, rydw i’n brysur ddysgu fod manylion bychan yn bwysig, ac fod pobl yn bethau cymhleth iawn.

Roeddwn yn awyddus iawn i fod yn ran o sefydliad a oedd yn fy ngalluogi i ddelio gyda pobl o ddydd i ddydd, ond wnes i ddim sylweddoli’r effaith mae cyfraniad pob unigolyn yn gallu ei gael ar benderfyniadau. Yn fy rôl bresenol i, tydw i ddim yn delio yn uniongyrchol gyda’r cyhoedd. Tydw i ddim yn cynnig gwasanaeth uniongyrchol i drigolion Gwynedd. Neu a ydw i?

Wrth reoli prosiect a newid systemau, mae llawer o’r gwaith sydd yn digwydd yn ddibynol ar bwy ydw i’n ei adnabod, beth yw fy mherthynas i gydag eraill, a sut gallaf gydweithio gydag eraill i greu newid. Tra bod gennyf i fy syniadau a’m amcanion fy hun, mae hyn yn wir am bawb yn y sefydliad, ac os yw amcan a nôd pawb yn wahanol, sut ydym i fod i ddod i benderfyniad?

Er enghraifft, mae un darn o waith rydw i yn gweithio arno yn golygu addasu system bresenol i fod yn fwy effeithiol. Ar yr olwg gyntaf, roeddwn i wedi amlinellu beth roeddwn i yn feddwl oedd angen ei newid, braslunio cynllun yr oeddwn i yn credu y byddai’n gallu gweithio, ac yn barod i newid y system. Ond buan iawn y dysgais mai yn ara’ deg mae dal iâr.

Mae pob unigolyn sydd yn rhan o’r system bresenol yn gweld gwerth i rai agweddau, ac yn derbyn gwybodaeth arall nad yw mor berthnasol iddynt hwy, ond mae pob darn o wybodaeth yn bwysig i rywun. Yn fwy na hynny, mae pob unigolyn yn brysur wrth eu gwaith, ac felly mae gofyn i unigolion gamu yn ôl ac edrych ar beth sydd yn bwysig bron yn cael ei weld fel gwastraff amser neu yn amhosib mewn rhai sefyllfaoedd, ac o ble ddaw’r amser ychwanegol hyn i gynnal yr holl gyfarfodydd a thrafodaethau yn eu diwrnod gwaith? Mae gan bawb eu barn a’u teimladau sydd yn bwysig i ni, ac felly sut ydym yn cyfaddawdu er mwyn gallu rhoi “pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud?”

Wrth feddwl fel technegydd, gan ddefnyddio’r côd cywir, gallwn raglennu systemau i gydymffurfio, newid neu ddod i’r un casgliad, ond drwy ystyried teimladau a dyheadau pobl mae’n rhaid gweithio ychydig yn galetach er mwyn cyfaddawdu a rheoli newid yn effeithiol.

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .