Y Lleoliad Cyntaf – Galw Gwynedd

Dechreuais yr ail wythnos yn ymweld â’r Ganolfan Gyswllt, Galw Gwynedd ym Mhenryn-Deudraeth. Cefais hefyd brofiad ychydig bach yn agosach i adref hefyd yn Swyddfa Penarlâg. Yn fan hyn treuliais fore yn ymweld â Siop Gwynedd.

Rhain yw prif bwyntiau cyswllt phobl Gwynedd gyda’r Cyngor. Eto, cefais amrywiaeth eang o brofiadau gwahanol. Roedd y rhain yn cynnwys:

Gwrando ar gymysgedd gwahanol o alwadau ffôn gan y cyhoedd

Helpu gydag ymholiadau ar-lein o’r system hunanwasanaeth

Tasgau gweinyddol – gyrru tocynnau parcio preswyl a blynyddol allan i drigolion Gwynedd

Roedd y cyfanswm o’r tasgau uchod yn hynod o bwysig yn fy marn i. Roeddent yn rhoi profiad o faint o ymholiadau oedd staff y ganolfan yn delio gyda mewn diwrnod, ond hefyd yn dangos pa mor effeithlon yr oeddent yn delio a nhw hefyd, sydd yn hynod o bwysig.

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .