Ymweld a’r Tîm Gorfodaeth Stryd!

Un o’r tasgau dwi wedi bod yn brysur yn gweithio ar ers yr wythnosau diwethaf yw cynllunio drafft o bolisi. Mae’r drafft yma yn bolisi sy’n canolbwyntio ar ddiogelu’r data mae’r ‘Body Worn Camera’s’ yn ei ddal.

I mi allu cynyddu fy nealltwriaeth o pam y buasai’r Cyngor yn gobeithio defnyddio’r camerâu yma, mi es i ati i drefnu amser efo’r Tîm Gorfodaeth Stryd.
Treuliais ddiwrnod yn patrolio o gwmpas ardal Bangor a’r cyffiniau yn cael profiad o weld be oedd y wardeniaid gorfodaeth stryd yn ei wneud o ddydd i ddydd.

Un o broblemau roedd y tîm yn delio gyda’n gyffredinol oedd tipio anghyfreithlon. Roedd hyn yn digwydd dros dro i dro yn yr ardal. Roedd yn ddifyr cael gweld y broses o’r adroddiad cyntaf a sut roedd y Cyngor yn delio a digwyddiadau fel hyn yn effeithlon.

Roedd y warden yn gweithio ar y rheng flaen ac yn treulio amser yn siarad gyda’r cyhoedd wrth batrolio. Wrth wneud hyn roedd yn gallu delio gyda’i ymholiadau yn syth ar ôl iddyn nhw gael ei adrodd. Roedd treulio amser gyda’r warden yn fuddiol iawn i mi.

Roedd y profiad wedi galluogi i mi gynyddu fy nealltwriaeth o pam y bysa’r adran yn defnyddio’r camerau. y profiad hefyd wedi rhoi trosolwg ar sut y bysant nhw’n gallu helpu’r warden gan eu bod angen tystiolaeth gyda llawer iawn o’r ymholiadau y maen nhw’n ei dderbyn.

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .