Gwneud Ffrindiau Newydd! – Derwen

Dwi bellach wedi cyrraedd fy ail leoliad yn saff. Y profiad nesaf dwi’n cael ydy gweithio gyda Derwen sef Tîm Integredig Plant Anabl Gwynedd. Fel rhan o’r profiad dwi’n gweithio gyda grwpiau chwarae plant gydag anableddau dysgu draw yn Ysgol yr Hendre am 3 diwrnod bob wythnos ac yna byddaf yn dylunio a chreu taflenni gwybodaeth ar gyfer y gwasanaeth y 2 ddiwrnod arall.

Fel gallwch ddychmygu dwi wedi cyfarfod cymeriadau arbennig iawn. Mae’r staff sydd wrthi yn ddyddiol gyda’r plant yma yn haeddu medalau bob un.

Yn ystod y mis byddaf yn cael profiad gyda’r criw iau a’r rhai hyn, bydd hyn yn golygu dysgu a gwella fy sgiliau dealltwriaeth a dirnadaeth yn gyflym iawn.
Yn reddfol pan mae plentyn ar ben ei hun ac i weld yn unig dwi’n dueddol o drio bod yn ffrind a cheisio gneud sgwrs gyda’r plentyn – ond yn ôl cyngor gan y staff dydy rhai o’r plant ddim eisiau sgwrs o gwbl. Mae’r gweithwyr yma yn adnabod ac yn gwybod am anghenion a chymeriadau’r plant yma i gyd.
– Rhywbeth dwi’n gobeithio gallu dysgu cyn diwedd y mis!

Dwi am gael cyfle i fod yn rhan o gyfarfodydd, llunio taflenni gwybodaeth a gofyn lot fawr o gwestiynau yn ystod fy nghyfnod yma gyda Thîm Derwen.

Byddaf yn blogio eto yn ystod y mis, felly dewch ‘nôl bob hyn a hyn i weld os byddaf wedi cofnodi mwy yma.

Hwyl,
Arawn

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .