Herio’n Effeithiol – Rhan 2

Mae’r sesiwn yn siapio ond mae llawer o ffactorau ar ôl i’w hystyried. Mae angen i ni ymarfer y sleidiau, treialu gweithgareddau, creu adnoddau, penderfynu ar y sgript heb sôn am hyrwyddo a marchnata. Bydd angen ystyried sut i farchnata, pwy ydym am eu targedu, a sut ydym am gyrraedd pawb?

Rydym hefyd yn y broses o geisio derbyn achrediad gan y CPD ar gyfer y sesiwn.

Cliciwch ar y linc isod am fwy o wybodaeth ynglŷn a beth yn union yw’r CPD!

https://www.jobs.ac.uk/careers-advice/managing-your-career/1318/what-is-continuing-professional-development-cpd

Beth mae hyn yn ei olygu i ni?

Mae’n rhaid i ni ddangos ein bod wedi ystyried beth yw nôd ac amcanion nid yn unig yn y sesiwn, ond y sleidiau a’r gweithgareddau, gan adlewyrchu’n gyson ar ddatblygiad yr unigolyn a’r dysgu a gaiff ei wneud. Bydd y cais yn cael ei anfon cyn diwedd y dydd heddiw, ac fe gawn glywed o fewn pythefnos a yw ein sesiwn yn gymwys ar gyfer yr achrediad.

Croesi bysedd!

Elliw a Miriam

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .