Herio’n Effeithiol – Rhan 3

Newyddion da – mae ein sesiwn bellach wedi derbyn ei hachrediad gan y CPD!

Rydym wedi dewis dyddiad (Medi 4ydd!) ac yn barod i hyrwyddo’r sesiwn. Rydym ni yn gobeithio y bydd yn rywbeth a fydd yn tanio diddordeb ac y bydd ein cyd-weithwyr yn ei weld yn fuddiol.

Rydym wedi penderfynu targedu rheolwyr er mwyn rhoi trosolwg o’r sesiwn iddynt gan ofyn am eu cymorth i annog staff i fynychu.

Rydym hefyd wedi creu poster a fideo a fydd yn cael eu hanfon i holl staff y Cyngor gan obeithio y byddant yn dal eu llygaid! Beth am gymryd cip olwg arnynt?

Elliw a Miriam

Herio - Poster

 

 

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .