Hear! Hear! The power of listening…

Pwy sy’n dŵad dros y bryn yn ddistaw, ddistaw, bach?

Pa mor astud wyt ti’n gwrando? A fuaset ti’n gallu clywed sŵn crensian esgidiau trymion du Siôn Corn yn yr eira? A fuaset ti’n gallu clywed clychau’r ceirw yn canu’n ysgafn yn y pellter?

Yn y byd prysur rydym yn byw ynddo erbyn hyn, mae pawb yn meddwl fod gwrando yn sgil y mae pawb yn meddu arno. Mae gennym ddwy glust, ac wrth fod yng nghanol bwrlwm a phrysurdeb bywyd, does dim modd y gallwn beidio a chlywed yr hyn sydd yn digwydd o’n cwmpas.

Ond sawl tro ydym ni wedi gwneud siâp ceg ar rywun i ateb cwestiwn, neu wrthod paned, tra yn siarad ar y ffôn gyda rhywun arall? Sawl tro ydym ni wedi gofyn cwestiwn, ac yn edrych ar sgrin i ateb e-bost wrth wrando ar yr ateb? A sawl tro ydym ni yn sylweddoli ein bod wedi colli hanner sgwrs gan ein bod yn breuddwydio am swper neu yn creu rhestr o bethau i’w gwneud wedi i sgwrs ddod i ben?

Tydi gwrando yn lân ac yn gywir ddim mor hawdd ac y mae’n swnio.

Yn ddiweddar, mi fûm i ar hyfforddiant a oedd yn edrych ar sgiliau gwrando. Doedd gan yr hyfforddwraig ddim cyflwyniad, nodiadau, nac adnoddau o’i blaen. Roedd gofyn i ni edrych ar yr hyfforddwraig am y rhan fwyaf o’r sesiwn.

Doeddwn i heb ystyried tan hynny pa mor hawdd y mae pethau eraill yn tynnu fy sylw. Dydw i byth yn defnyddio fy ffôn symudol os nad bod angen, dydw i ddim yn or-hoff o wneud nodiadau ar gyfrifiadur, ac mi fyddai wastad yn ymdrechu i eistedd yn nhu blaen unrhyw hyfforddiant rwyf yn ei fynychu, felly roeddwn i’n meddwl fy mod i’n gallu gwrando yn eithaf da.

Roedd y munudau cyntaf yn boenus. Doeddwn i ddim yn gwybod ble i edrych, beth i ysgrifennu ar fy narn papur, na beth oedd hi fel hyfforddwraig yn mynd i ddweud nesaf. Doedd dim sleidiau i fy helpu, i dynnu fy sylw, nac i ddal fy llygaid. Roedd rhaid i mi wrando.

Wedi’r sesiwn roeddwn i wedi blino’n lân ac wedi canolbwyntio’n ddwys am gyfnod hir o amser, ond fe wnaeth y sesiwn i mi feddwl, does bosib fod gwrando yn gywir mor anodd a hyn? Os felly, yn bendant roedd angen i mi fireinio fy sgiliau gwrando.

Dwy wers bwysig a ddysgais o’r sesiwn oedd:

  1. Mae’n rhaid gwneud yn siŵr fy mod yn barod i wrando.

Mae’r rheol hon yn swnio’n syml, ond os nad oes gen i amser i fod yn gwrando mae’n rhaid dweud wrth y sawl sydd yn ceisio siarad gyda mi. Fe wnaethom drafod sut mae peidio cael fy nghlywed neu bod yn ymwybodol fod y person arall ddim wir yn gwrando yn gwneud i mi deimlo, ac fe sylweddolais y buaswn i yn gallu cael yr effaith hon ar eraill hefyd. Mae hynny yn ganlyniad llawer gwaeth na bod yn onest a neilltuo pum munud ar ddiwedd diwrnod i wrando yn dda.

  1. Sicrhewch nad oes dim o’ch cwmpas y gall dynnu eich sylw yn ystod y sgwrs.

Golygir hyn ein bod yn clirio’r pethau hynny sydd yn weledol o’n cwmpas e.e. ffonau, e-byst, pentwr o daflenni papur ar y ddesg sydd angen sylw, ond hefyd y pethau hynny na ellir ei weld sef ein meddyliau ni. Os nad ydym yn y ffrâm iawn o feddwl, does dim posib i ni roi chwarae teg i’r sawl sydd yn siarad nac i ni ein hunain fel y gwrandäwr, ac fe allwn ni fod yn colli gwybodaeth bwysig iawn.

Felly wrth i ni dreulio amser gyda’n teuluoedd dros y Nadolig, rhowch gynnig arni, a gwrandewch gyda’r unig fwriad o ddysgu mwy am yr unigolyn rydych yn siarad gyda hwy. Dim er mwyn gallu ymateb. Dim er mwyn gallu rhannu stori eich hun. Ac yn bendant ddim er mwyn ceisio cwblhau pedair tasg arall ar yr un pryd.

Pwy a ŵyr, os y gwrandawch chi’n ddigon astud, efallai y clywch chi glychau Santa’n canu wedi’r cwbl!

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .