Lleoliad Cyntaf- Priffyrdd a Bwrdeistrefol

Ymddiheuriadau am fy absenoldeb o’r blog. Ers 3 mis rwyf wedi cychwyn ar fy lleoliad cyntaf a hynny’n yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol. Cyffro a phrysurdeb mawr!!

Braf yw cael ymuno â’r tîm clos sydd yma’n y Depot i fyny yng Nghibyn, Caernarfon er mwyn gweithio ar fy mhrosiectau. Rhaid i mi gadw manylion y prosiect yn “hush-hush” gan nad yw’r wybodaeth eto’n barod i’w gyhoeddi!. Ond,  gallaf gallaf roi cliw bach i chi – mae’n ymwneud â maes Ailgylchu!

Does dim amheuaeth bod ailgylchu yn faes allweddol erbyn hyn.  Rwy’n siwr eich bod chi i gyd wedi clywed y term ‘zero waste’ gan y Llywodraeth. ac felly rwy’n ystyried fy hun yn lwcus iawn yn cael gweithio o fewn maes mor amserol a phwysig.

Mae fy niwrnodau yn amrywio….un diwrnod gallaf fod yn y swyddfa mewn cyfarfodydd neu’n gweithio wrth fy nesg…..a’r diwrnod nesaf gallaf fod yn teithio o gwmpas Gwynedd yn y Fan Ailgylchu yn ymweld â staff rheng flaen.

Yn anffodus, rwyf hefyd yn ymwybodol bod fy nghyfnod yn yr adran yma’n brysur fynd felly rwyf am drio gwneud y mwyaf o’r profiadau sydd ar ôl i mi yma!

Tan tro nesaf!

Sara (Cynllun Rheolwyr Yfory)

36724774_1711959988852553_8507037256421212160_n

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .