Pwrpas y Cynlluniau
Pwrpas Cynlluniau Yfory yw datblygu unigolion i’r safon uchaf bosib i ymgymryd â swyddi allweddol o fewn y Cyngor. Mae’r cynlluniau yn rhoi’r cyfle i unigolion gael y profiadau, rhwydweithiau a chymwysterau sydd eu hangen i roi sylfaen gadarn i gychwyn gyrfa yng Nghyngor Gwynedd.
Yn rhan o Gynlluniau Yfory mae Cynllun Rheolwyr Yfory, a Chynllun Arbenigwyr Yfory.
Pwrpas Cynllun Rheolwyr Yfory yw datblygu rheolwyr newydd i ymgymryd â swyddi rheoli allweddol o fewn y Cyngor, a phwrpas Cynllun Arbenigwyr Yfory yw datblygu unigolion i arbenigo mewn meysydd penodol o fewn y Cyngor ac i ymgymryd â swyddi arbenigol allweddol o fewn y Cyngor.
Trosolwg o’r Cynllun
- Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn pob cefnogaeth ac adnodd posib i ennill cymhwyster proffesiynol lefel uwch.
- Bydd yr hyfforddai yn cael profiad o weithio gyda timau amrywiol ac yn cyfrannu at waith mewn amrediad o Wasanaethau ar draws y sir.
- Bydd cyfle i gael profiadau gwerthfawr tu hwnt i’r arferol, a fydd yn cyfarch yr elfennau gwleidyddol, strategol, gweithredol a gwaith rheng flaen sydd y rhannau annatod o swyddogaeth y cyngor.
- Bydd cefnogaeth ac adolygiadau parhaus yn digwydd i sicrhau bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael y gorau o’r cynllun.
Wrth fanteisio ar yr uchod, bydd y darpar reolwr yn datblygu’r hyder, sgiliau a dealltwriaeth o’r ymddygiadau hanfodol y bydd eu hangen i fod yn reolwr effeithiol yng Nghyngor Gwynedd.
Beth ydi’r gofynion sylfaenol?
Bydd rhaid i ymgeiswyr gyrraedd y gofynion sylfaenol isod:
- Eich bod yn meddu ar (neu yn debygol) o ennill gradd dosbarth 2:1 neu uwch. Fe all eich gradd fod mewn unrhyw faes. Fe rydych yn gymwys i ymgeisio pryd bynnag y gwnaethoch chi raddio.
- Eich bod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg
- Eich bod yn meddu ar TGAU Gradd C neu uwch mewn Mathemateg, Cymraeg, Saesneg a Gwyddoniaeth
- Eich bod wir eisiau gweithio mewn llywodraeth leol
- Eich bod wedi dangos parodrwydd i arwain eraill e.e. mewn sefyllfa addysgiadol (ysgol, coleg, prifysgol), chwaraeon, gymdeithasol, gymunedol neu waith.